Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Hydref 2015

Amser: 09.19 - 12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3270


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David Rees AC (Cadeirydd)

Alun Davies AC

John Griffiths AC

Altaf Hussain AC

Elin Jones AC

Darren Millar AC

Lynne Neagle AC

Gwyn R Price AC

Lindsay Whittle AC

Kirsty Williams AC

Tystion:

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru

Sue Bowker, Llywodraeth Cymru

Dewi Jones, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Llinos Madeley (Clerc)

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Sian Giddins (Dirprwy Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1       Blaenraglen waith y Pwyllgor.

1.1 Cytunodd y Pwyllgor i graffu ar y Bil Cymru drafft , yn enwedig ar yr effaith y gall y model cadw pwerau arfaethedig ei chael ar y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol,  yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd 2015.

1.2 Er mwyn caniatáu amser i anghenion busnes eraill, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i aildrefnu trafodion Cyfnod 2 ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) ar gyfer dydd Mercher, 25 Tachwedd. Mae hyn yn amodol ar fod y Cynulliad yn cytuno ar y penderfyniad ariannol, sydd wedi’i drefnu i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd.

</AI2>

<AI3>

2       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y materion allweddol wrth baratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

2.1 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol wrth baratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog.

</AI3>

<AI4>

3       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

3.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI4>

<AI5>

4       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 18

4.1 Datganodd Lindsay Whittle y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

4.2 Bu’r Gweinidog yn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau.

4.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

·         nodyn i’r Pwyllgor i egluro a fyddai tatŵio, fel y’i diffinnir yn y Bil, yn cynnwys triniaethau tebyg, fel ‘tashing’;

·         nodyn ar sut y mae’n bwriadu diwygio Rhan 4 o’r Bil i ymestyn y darpariaethau o fewn y rhan hon i gynnwys tyllu’r tafod; a

·         chopi o’r astudiaeth, y cyfeiriodd ati, am y gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaliffornia ynghylch e-sigaréts.

</AI5>

<AI6>

5       Papurau i’w nodi

</AI6>

<AI7>

5.1   Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015

5.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

</AI7>

<AI8>

5.2   Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): gwybodaeth ychwanegol

5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

</AI8>

<AI9>

5.3   Adroddiad Etifeddiaeth Pwyllgor Busnes y Pedwerydd Cynulliad: gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

5.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

</AI9>

<AI10>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfodydd ar 5 Tachwedd ac 11 Tachwedd 2015.

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.2 Cynigiodd y Cadeirydd hefyd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfodydd ar 5 Tachwedd ac 11 Tachwedd 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi). Cytunwyd ar hyn.

</AI10>

<AI11>

7       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dystiolaeth a’r materion allweddol

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod:

·         y dystiolaeth a ddaeth i law; a’r

·      materion allweddol sydd wedi codi yn ystod ei gyfnod yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>